Ddydd Iau 5 Gorffennaf, bu IMPACT yn dathlu cwblhau’r gwaith adeiladu gyda digwyddiad lansio i’r staff a barbeciw haf blynyddol.
Daeth dros 400 o staff o’r Coleg Peirianneg ynghyd i nodi’r achlysur, a thorrwyd y rhuban coch gan y Darpar Is-Ganghellor, yr Athro Paul Boyle. Ymunwyd ag ef gan Bennaeth y Coleg, yr Athro Steve Brown, a Chyfarwyddwr IMPACT, yr Athro Johann Sienz, a fu’n diolch i bawb a gyfrannodd at lwyddiant ysgubol y prosiect adeiladu.
Cychwynnwyd y digwyddiad â’r barbeciw haf blynyddol ar dir Campws y Bae, yn edrych dros y traeth, lle darparwyd bwyd a lluniaeth gan Gower Hog Roast. Wedyn darparwyd hufen iâ Joe’s a theisennod o Celebration yn atriwm IMPACT.
Yn dilyn y seremoni, roedd cyfle i fynd ar daith o amgylch yr adeilad, gyda throsolwg o adeilad Peirianneg Gogledd – cartref IMPACT. Gallai’r ymwelwyr archwilio’r gweithdai a’r labordai helaeth, yn ogystal â’r lle ar gyfer cydleoli a’r swyddfeydd academaidd.
Mae dwy ardal wahanol i’r adeilad ei hun, a gwblhawyd ym mis Mai, sef adeilad swyddfeydd ymchwil ac adeilad labordy gyda gweithdy cynllun agored 1,600m2, ac mae atriwm yn cysylltu’r ddwy ran. Ar y cyd maent yn darparu lle ar gyfer 80 o swyddfeydd unigol, canolbwynt ar gyfer dros 150 o ymchwilwyr a lle cydleoli ar gyfer 50 o gydweithwyr o fyd diwydiant ac academia.
Y tu allan, mae mynedfa’r gogledd yn cynnwys wal fyw fawr o blanhigion a blodau, tua 114m2.
Bydd rhagor o newidiadau’n dilyn yn ystod y misoedd nesaf, cyn i’r adeilad agor yn swyddogol yn y gaeaf!
I weld holl ddelweddau’r diwrnod, ewch i’r albwm llawn, sy’n cynnwys lluniau ychwanegol o’r adeilad, yma.