Adeiladu ein Wal Fyw

Awst 27, 2019

Rydyn ni’n gwybod ers meitin bod planhigion yn dda i ddinasoedd. Mae llystyfiant trefol yn dal llygredd gronynnau a nwyon, yn amsugno glaw gormodol, yn lleihau sŵn, yn oeri’r aer ar ddiwrnodau heulog; mae’n darparu ystod o wasanaethau ecosystem, fel y’u gelwir, i ni.

Mae llawer o ymchwil wedi’i wneud ar y manteision uniongyrchol i bobl, ac ysgrifennwyd llawer amdanynt hefyd – mae cleifion mewn ysbyty sy’n gallu gweld coed drwy’r ffenestr yn ymadfer yn gynt. Dangoswyd bod treulio amser mewn mannau gwyrdd yn lleihau straen ac yn gostwng pwysedd gwaed. A chan fod byd natur yn colli tir yn frawychus o gyflym yng nghefn gwlad, wrth i amaeth ddatblygu’n fwyfwy effeithlon a dwys, mae ein parciau a’n gerddi yn dod yn hafanau cynyddol bwysig ar gyfer bywyd gwyllt.

Mae llawer o gystadleuaeth am le yn ein hardaloedd trefol, ond mae’n hanfodol creu lle ar gyfer planhigion, ac mae atebion dyfeisgar yn cael eu canfod sy’n darparu manteision lluosog. Yn ogystal â neilltuo mannau gwyrdd penodol a phlannu coed a llwyni rhwng adeiladau, gall adeiladau eu hunain fod yn rhan o’r seilwaith werdd. Gall toeon gwyrdd a waliau byw helpu i ddiogelu strwythurau rhag golau uwchfioled (UV) a rhoi cysgod rhag y glaw. Trwy leihau cyflymdra’r gwynt a gweithredu fel blanced i’r adeilad, gallan nhw wella effeithlonrwydd ynni, gan leihau’r biliau gwresogi yn y gaeaf a’r angen am awyru yn yr haf.

Roedd toeon gwyrdd ar raddfa fach eisoes wedi cael eu hymgorffori ar y ddau gampws, gyda’r ORACLE ar y Bae ac ILS2 yn y Parc, a bu SPECIFIC yn cynnwys waliau byw bioamrywiol ar eu Hystafell Ddosbarth a’u Swyddfa Actif, gan ddenu rhywogaethau fel y glesyn glas a hyd yn oed gwalchwyfyn hofran. Y gwanwyn yma, fodd bynnag, aeth y Brifysgol gam ymhellach, a sicrhau golygfa newydd drawiadol wrth gyrraedd y Campws, gyda wal fyw ysgubol ar adeilad Peirianneg Gogledd, yn wynebu’r brif fynedfa.

Wal fyw ar adeilad Peirianneg Gogledd – cartref IMPACT.

Nid gwaith hawdd oedd dethol planhigion ar gyfer y wal, gan fod amrywiaeth anghyffredin o heriau ynghlwm wrth fod ar Gampws y Bae – yn ogystal ag edrych yn wych ar hyd y flwyddyn, byddai rhaid i’r planhigion oroesi ar wal oedd yn wynebu tua’r gogledd yn nannedd y gwyntoedd llawn halen, darparu bwyd ar gyfer pryfed peillio, ac yn hanfodol, peidio â bod yn debygol o droi’n wyllt ac ymwthio i gynefinoedd cenedlaethol bwysig SoDdGA Twyni Crymlyn drws nesaf.

Biotecture yn adeiladu wal fyw ar adeilad IMPACT.

Roedd gan Biotecture, y cyflenwyr, amrywiaeth eang o blanhigion i ddewis ohonynt, detholiad a brofwyd yn llwyddiannus ar rai o’r prosiectau wal fyw uchaf eu proffil yn y wlad, fel Cwrt Rhif 1 yn Wimbledon, Cae Criced Lord’s a Gorsaf Birmingham New Street. Yn ddealladwy, roedd y rhywogaethau hyn wedi cael eu dewis am eu golwg a’u haddasrwydd i dyfu ar waliau byw, ond hefyd er mwyn atgyfnerthu ein statws fel y Brifysgol achrededig gyntaf yng Nghymru sy’n Llesol i Wenyn ac i helpu i gryfhau’r coridor bywyd gwyllt o Dwyni Crymlyn i Abertawe, ac roedden ni am gynnwys planhigion brodorol a llesol i beillwyr yn y gymysgedd. Roedd rhai dewisiadau’n hawdd; mae clustog Fair yn blanhigyn sy’n tyfu ar glogwyni’r môr, a byddai’n ffynnu yn y math hwn o leoliad. Ymhlith y lleill mae plu’r gweunydd, sawdl y fuwch a briallu. Eiddew yw un o’r planhigion gorau ar draws pob agwedd ar fywyd gwyllt, gyda blodau llawn neithdar yn yr hydref pan na fydd fawr ddim arall yn blodeuo, ac aeron sy’n un o hoff fwydydd y fwyalchen a’r fronfraith. Mae oregano yn blanhigyn arall gwych ar gyfer gwenyn a phryfed hofran, a bydd rhedyn lleol fel rhedyn y derw a thafod yr hydd yn darparu dail yn y gaeaf.

Mae’r wal fyw tua 114m2 ac mae’n cynnwys sawl rhywogaeth o blanhigion sy’n llesol i beillwyr, fel Heucheras ‘Palace Purple’ a ‘Fire Chief’, yn ogystal ag Armeria maritima ‘Clustog Fair’ ac Origanum vulgare.

Nid dim ond y Brifysgol fydd yn elwa – trwy dreialu planhigion o’r fath mewn lleoliad byd go iawn, byddwn ni’n helpu i greu adeiladau sydd cystal ar gyfer bywyd gwyllt ag ar gyfer pobl. Os nad ydych chi wedi’i weld eto, mae’n werth galw heibio’r tro nesaf byddwch chi gerllaw, er mwyn deall pam mae cymaint o gyffro!

Gan Ben Sampson, Swyddog Bioamrywiaeth, Prifysgol Abertawe

Other News