Gosod ‘Wal Fyw’ mewn Sefydliad Ymchwil Peirianneg gwerth £35 Miliwn ym Mhrifysgol Abertawe

Mehefin 13, 2019
Mae'r wal yn cynnwys tua 5,500 o blanhigion gan gynnwys Hedera helix ‘Green Wonder’, Heuchera ‘Fire Chief’ a Euonymus fortunei ‘Blanced Dart '’

Newyddion Diweddaraf Ymchwil Diweddaraf Archif Newyddion 2019 2018 2017 2016 2015 2014 2013 2012 2011 Staff Newyddiadurwyr
Mae ‘wal fyw’ newydd o blanhigion a blodau wedi cael ei gosod ar y Sefydliad Deunyddiau, Prosesu a Thechnolegau Rhifyddol Arloesol (IMPACT) sy’n rhan o Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe.

Newyddion Diweddaraf Ymchwil Diweddaraf Archif Newyddion 2019 2018 2017 2016 2015 2014 2013 2012 2011 Staff Newyddiadurwyr

Mae ‘wal fyw’ newydd o blanhigion a blodau wedi cael ei gosod ar y Sefydliad Deunyddiau, Prosesu a Thechnolegau Rhifyddol Arloesol (IMPACT) sy’n rhan o Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe.

Mae’r system hydroponig a ddyluniwyd yn arbennig wedi cael ei chreu i sicrhau lefel newydd o gynaliadwyedd i adeilad IMPACT, sydd bron wedi’i gwblhau, trwy reoli dŵr yn ddeallus a deinameg system sefydlog.

Gweddlun gogleddol yr adeilad sy’n cynnwys y wal fyw (neu’r ‘wal werdd’), er mwyn sicrhau effaith ddramatig wrth gyrraedd y campws. Mae’n cynnwys tua 5,500 o blanhigion, gan gynnwys Hedera helix ‘Green Wonder’, Heuchera ‘Fire Chief’ ac Euonymus fortunei ‘Dart’s Blanket’.

Ben Sampson, Swyddog Bioamrywiaeth Prifysgol Abertawe:
“Yn ogystal â bod yn drawiadol wrth gyrraedd y campws, bydd y wal fyw yn gwella effeithlonrwydd ynni’r adeilad ac yn darparu cartref i fywyd gwyllt.

Mae niferoedd y pryfed peillio wedi bod yn gostwng yn frawychus yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Prifysgol Abertawe oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru i weithio’n swyddogol o blaid Gwenyn, ac mae hwn yn gam arall yn ein gwaith gwych i wneud gwahaniaeth.

Gan fod Twyni Crymlyn, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, drws nesaf, roedd rhaid i ni fod yn arbennig o ofalus i beidio â dewis planhigion a fyddai’n ymledu i’r twyni ac yn achosi problemau yn yr amgylchedd naturiol hefyd.”

Yn nodweddiadol, mae waliau byw yn cael eu llunio i drawsnewid tirweddau trefol, ac mae wal IMPACT, a gafodd ei dylunio a’i gosod gan Biotecture, wedi cael ei chreu i gynnig system hyblyg, fodylol sy’n creu diddordeb parhaus trwy amrywiaeth o batrymau dail a lliw.

 

Mae waliau byw fel arfer wedi’u cynllunio i drawsnewid tirweddau trefol a’r wal yn IMPACT

Meddai Richard Sabin, Rheolwr Gyfarwyddwr, Biotecture:

“Wal fyw IMPACT ym Mhrifysgol Abertawe yw’r wal allanol gyntaf ar raddfa fawr mae Biotecture wedi’i gosod yng Nghymru, ac mae Biotecture yn falch o ymwneud â chynaliadwyedd yr adeilad hwn.

Mae’r wal fyw rydyn ni wedi’i dylunio a’i gosod tua 114 metr sgwâr ac yn cynnwys sawl rhywogaeth o blanhigion sy’n denu peillwyr, megis planhigion Heuchera ‘Palace Purple’ a ‘Fire Chief’, yn ogystal ag Armeria maritima ‘Thrift’ ac Origanum vulgare.  Mae’r wal yn wynebu’r gogledd ac yn agos at y morlin, felly cynhwyswyd rhai planhigion bythwyrdd cryf a gwydn i sicrhau bod gan y wal fyw ffurf a gwead ar hyd y flwyddyn.”

Mae adeilad IMPACT, rhan o’r Coleg Peirianneg, i gael ei lansio’n swyddogol yn ystod misoedd y gaeaf, a bydd yn darparu cyfleoedd i ddiwydiant gydleoli mewn prosiectau ar y cyd i ddatblygu deunyddiau, cynnyrch a phrosesau newydd y gellir eu defnyddio ar draws y sector peirianneg lleol a byd-eang.

Mae’n cael ei ariannu’n rhannol gan Brifysgol Abertawe, gyda £17.4 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) trwy Lywodraeth Cymru.

IMPACT – darganfyddwch fwy

 

Other News/Newyddion Arall