Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg – Dr Grazia Todeschini

Mehefin 23, 2020

Ar y cychwyn, fy nghariad at wyddoniaeth, ac yn ddiweddarach fy nghariad at beirianneg drydanol, arweiniodd fi i deithio i lawer o leoedd, gan gychwyn o bentref bach yng ngogledd yr Eidal i Milan, i’r Unol Daleithiau, i Abertawe, ac i lawer o leoedd eraill yn y cyfamser.

Fy Mhlentyndod

Fe dyfais i fyny mewn pentref bach iawn yng ngogledd yr Eidal, yn y mynyddoedd ger Llyn Como. Ddes i ddim i gysylltiad â llawer o enghreifftiau o dechnoleg wrth dyfu i fyny, ond rwy’n cofio mod i’n mwynhau mathemateg a geometreg yn fwy na dim yn yr ysgol ers y blynyddoedd cynnar, oherwydd bod her i fi yn y pynciau hynny. Roeddwn i’n teimlo bod y pynciau eraill yn fater o gofio ffeithiau, ond mewn mathemateg roeddwn i’n cael teimlad o gyflawniad a thwf personol bob tro byddwn i’n datrys problem.

Fe dyfais i fyny mewn pentref bach iawn yng ngogledd yr Eidal, yn y mynyddoedd ger Llyn Como.  Credit: Andrew & Donna

Ysgol Uwchradd

Wrth fynd i’r ysgol uwchradd fe ddaliais i ati i ddysgu am y pynciau hyn, ac fe ges i gyfle i fynd i sawl labordy gwyddonol (ffiseg, cemeg, gwybodeg ymhlith eraill). Ar y pryd, roeddwn i’n ansicr iawn ynghylch cyfeiriad fy addysg yn y dyfodol. Roeddwn i’n gwybod mod i am barhau i astudio pynciau gwyddonol, ond doeddwn i ddim yn siŵr am fy llwybr gyrfa.

Yn ystod fy nwy flynedd olaf yn yr ysgol, dylanwadodd dau ddigwyddiad ar fy mhenderfyniad. Y cyntaf oedd sgwrs gyda ffrind, ychydig flynyddoedd yn hŷn na mi, a soniodd wrthyf fi am beirianneg: roedd hi’n meddwl y gallai hynny fod yn yrfa dda i fi, o ystyried fy nghreadigrwydd. Efallai ei fod yn ymddangos yn rhyfedd mod i erioed wedi ystyried yr opsiwn yma o’r blaen, ond wrth dyfu i fyny ches i ddim llawer o gyfle i siarad â pheirianwyr na dysgu am eu gwaith, felly doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd gyrfa mewn peirianneg yn ei olygu. Yn ail, yn ystod blwyddyn olaf fy astudiaethau, roedd fy nghwrs yn canolbwyntio ar drydan a magneteg, ac fe syrthiais i mewn cariad â’r ddau bwnc. Fe ges i fy hudo gan y ffaith bod symiau mor fawr o drydan yn cael eu trosglwyddo, gan ddefnyddio dargludyddion bach, a dim ond wrth gynnau’r golau, neu ddefnyddio dyfais, y byddwn ni’n gwireddu’r broses hon. Fe ges i fy swyno’n llwyr gan ddirgelwch maes electromagneteg, a sut mae hynny’n trosglwyddo’n ynni y gallwn ni ei ddefnyddio bob dydd.

Prifysgol

Fe wnes i gyfuno fy niddordeb mewn datrys problemau a’m cariad at drydan trwy gofrestru ar y cwrs Peirianneg Drydanol yn y Politecnico di Milano. Dyma’r brifysgol sydd yn y safle uchaf o safbwynt peirianneg yn yr Eidal, ac roedd dilyn y cwrs hwn yn wych i fi. Roeddwn i’n gallu ymroi’n amser llawn i’r ddisgyblaeth roeddwn i wedi’i dewis, ac fe ddilynais i’r holl gyrsiau posibl ar beiriannau trydan, systemau pŵer, electroneg pŵer a mesuriadau trydanol. Yn y diwedd fe wnes i gwblhau BEng ac MSc yno, ac roedd fy thesis terfynol yn trafod ansawdd pŵer. Roedd y pwnc hwnnw’n eitha newydd i fi ar y pryd, ac fe wnaeth fy ngoruchwyliwr ei awgrymu i mi, ar ôl sylwi mod i’n tueddu’n fwy at bynciau dadansoddol na gwaith arbrofol. Roeddwn i’n mwynhau’r pwnc gymaint nes i mi aros yn y maes gyda’m PhD. Fe ges i gyfle gwych i astudio yn y Worcester Polytechnic Institute ym Massachusetts, dan oruchwyliaeth un o arbenigwyr y byd ar ansawdd pŵer.

Mae ansawdd pŵer yn gangen o beirianneg drydanol sy’n canolbwyntio ar y pethau sy’n amharu ar y cerrynt a’r signalau foltedd, eu ffynonellau, a’u lliniaru. Er bod ansawdd pŵer yn boblogaidd yn yr 80au a’r 90au, cafodd ei ddiystyru ar ddechrau’r ganrif newydd, yn bennaf oherwydd bod y rhan fwyaf o broblemau ansawdd pŵer wedi cael eu datrys erbyn hynny. Ond gyda dyfodiad technolegau ynni adnewyddadwy, mae’r pwnc yma’n dod yn boblogaidd eto. Y rheswm am hynny yw bod ynni adnewyddadwy wedi’i seilio ar electroneg pŵer a thrawsnewidyddion pŵer, sy’n achosi amrywiol fathau o amharu ar y system drydanol.

Fe ges i fy swyno’n llwyr gan ddirgelwch maes electromagneteg, a sut mae hynny’n trosglwyddo’n ynni y gallwn ni ei ddefnyddio bob dydd.

Gyrfa

Pan orffennais i fy PhD, fe ddewisais i weithio yn y diwydiant am rai blynyddoedd. Roedd yn gyfle gwych i mi, oherwydd ar y pryd roedd y gorsafoedd pŵer gwynt mawr cyntaf yn cael eu hagor ar y tir, ac roedd angen cynnal astudiaethau system bŵer i asesu’r effaith ar ansawdd pŵer. Aeth fy swydd gyntaf â fi i lawer o leoedd, o Hawaii i California i Chicago, ac roedd yn brofiad gwych. Roedd fy ail swydd yn Philadelphia, ac er mod i ddim yn teithio cymaint, roeddwn i’n dal i gael cyfle i fynd i’r Ffindir a Canada, ac i weithio mewn labordy pŵer datblygedig iawn. Fe gwrddais i â llawer o bobl oedd â degawdau o brofiad wrth weithio yn y diwydiant pŵer, ac roeddwn i’n teimlo’n ostyngedig ac yn ffodus iawn i gael cyfle i ddysgu oddi wrthyn nhw.

Fy rôl bresennol

Wedyn yn 2016 fe benderfynais i ddychwelyd i’r byd academaidd ac fe ymunais i â’r Coleg Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe. Nawr mae gen i ryddid i ddatblygu fy ymchwil fel rwy’n dymuno, a chyfle i drosglwyddo fy ngwybodaeth a’m hangerdd ynghylch peirianneg drydanol i’r cenedlaethau nesaf.

Ar beth rydw i’n gweithio nawr?

Yn ddiweddar, dyfarnwyd prosiect ymchwil i mi gyda’r Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) i astudio integreiddio ffynonellau ynni adnewyddadwy i’r grid trydan, a’u heffaith ar ansawdd pŵer.

Mae’r Deyrnas Unedig yn ymroddedig i sicrhau gostyngiad o 80% o leiaf yn ei hallyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050, o gymharu â lefelau 1990. Bydd cyrraedd y targed yma yn galw am newid sylweddol yn sut mae ynni’n cael ei ddefnyddio a’i gynhyrchu. Un o amcanion y prosiect hwn yw asesu effaith ffynonellau ynni adnewyddadwy yn y cymysgedd ynni yn y dyfodol, a rhoi atebion ar waith a fydd yn caniatáu i ynni adnewyddadwy gael ei integreiddio ymhellach i’r grid trydan.

Rydw i’n edrych ymlaen at weithio ar y prosiect hwn gyda’m cydweithwyr (y Grid Cenedlaethol, Prifysgol Texas yn Austin a Measurable Ltd) a helpu i #Siapio’rByd

Other News